Fy sail (A'm hunig noddfa dan yr haul)

    Fy sail,
A'm hunig noddfa dan yr haul,
A'm cysur mwy fydd Adda'r ail;
  Rho'f f'adail arno;
      dyma'r graig
A grym fy enaid i barhau,
  Er llid a gallu
      drygau'r ddraig.

    Pwy ddaw 
Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw,
Pan ddelo byddin brenin braw,
  I'm cyrchu draw i'm cartref hir?
Nid oes a saif yn graig a thŵr,
  Yn ngrym y dŵr ond Iesu'n wir.

    Efe
Fu rhwng y lladron yn fy lle,
Tan hoelion rhwng y dda'r a'r ne',
  A'r bicell gref yn gwanu'i fron,
A ddeil fy enaid yn y lli,
  Rhag suddo'n angeu du a'i don.
Casgliad o Hymnau (... ein Heglwys) Daniel Jones 1863

[Mesur: 288.888]

gwelir: Pwy ddaw (Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw)

    My foundation,
And my only refuge under the sun,
And my comfort evermore is the second Adam;
  I will put my building on him;
      here is the rock
And the force of my soul to endure,
  Despite the evil wrath
      and power of the dragon.

    Who will come
In death to grasp my hand,
When comes the army of the king of terror,
  To fetch me yonder to my long home?
No-one shall stand as a rock and tower,
  In the force of the water but Jesus truly.

    He
Who was between the thieves in my place,
Under nails between the earth and heaven,
  With the strong spear piercing his breast,
Shall hold my soul in the flood,
  From sinking in black death and its wave.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~